Graddfeydd Prosiect

Roedd Prosiect Cân yn cynnig cyfle cyffrous i weithio gyda’r gyfansoddwraig broffesiynol Maddie Jones, a sylfaenydd/cerddor RecRock Dan Fitzgerald, a aeth â’r cyfranogwyr drwy’r broses o gyfansoddi caneuon, creu alawon a recordio sain. Gyda’i gilydd bu Maddie a Dan yn mentora cerddorion ifanc yn edrych ar delynegion, alawon, strwythur caneuon, cordiau, cyferbyniad a mwy.

Dyma beth oedd gan rai o’n cyn-gyfranogwyr i’w ddweud am eu profiad:

“Roedd gweithio gyda Dan a Maddie yn ddiddorol iawn… fe wnaethon nhw roi cyngor ac adborth gwych”

“Roeddwn i wrth fy modd yn gwneud ffrindiau newydd trwy gerddoriaeth.”

“Roedd gwrando ar straeon a phrofiadau eraill a gymerodd ran yn wirioneddol ysbrydoledig”

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n flaenorol gan:

Gwyliwch Prosiect Cân 2020 Gwyliwch Prosiect Cân 2021
Share by: